|
|
|
GRANTIAU CYHOEDDI LLCD I GYHOEDDWYR |
|
|
Pwy sydd â'r hawl i ymgeisio? Mae grantiau cyhoeddi LLCD ar gael i gyhoeddwyr tramor er cyfieithu llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg Cymru. Lle bo cyfieithu llyfrau Cymraeg i'r Saesneg yn y cwestiwn, gall cyhoeddwyr yn y Deyrnas Unedig wneud cais. Pryd mae ceisiadau yn cael eu trafod? Mae pedwar dyddiad cau: 1af o Fawrth; 1af o Fehefin; 1af o Fedi; 1af o Ragfyr. Sut mae ceisiadau yn cael eu hasesu? Mae pob cais yn cael ei asesu gan banel grantiau LLCD. Mae sampl o waith y cyfieithydd yn cael ei asesu gan ddarllenydd allanol lle bo angen (os nad yw LLCD yn gyfarwydd â gwaith y cyfieithydd, er enghraifft). Pa gymorth ariannol sydd ar gael? Hyd at 100% o dâl y cyfieithydd. Sut mae ymgeisio? Dadlwythwch y ffurßen gais, os gwelwch yn dda, ac wedi ei llenwi, ei hanfon at Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr LLCD. Pryd mae'r grant yn cael ei dalu? Telir y grant i'r cyhoeddwr wedi i LLCD dderbyn chwe chopi cyfarch o'r cyfieithiad cyhoeddiedig yn ogystal â phrawf fod y cyfieithydd wedi ei dalu yn ôl amodau'r cytundeb. Mae hawl gan LLCD i beidio â thalu'r grant os na chyßawnwyd amodau'r cytundeb. |
Grantiau am gyfieithiadau sampl. Gall cyhoeddwyr ymgeisio hefyd am grant at gost comisiynu cyfieithiad sampl. Amodau Caiff y grant cyfieithu ei dalu yn ei grwnswth ar ôl i'r cyhoeddwyr gyßawni'r amodau canlynol:
|
|
CRONFA CYßEOEDD RHYNGWLADOL CELFYDDYDAU RHYNGWLADOL CYMRU |
|
|
Gellir cyßwyno cais i'r gronfa hon ar gyfer:
Noder y rhoddir blaenoriaeth i brosiectau lle ceir elfen sylweddol o gydweithio. Cliciwch yma i weld y manylion llawn am y gronfa. Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Nikki Morgan
T 029 2038 3037 |
|
|
|
![]() |