printhomeemail usnewid laitham llcdnewyddiondygwyddiadauerthyglau
llyfrauawduroncyfieithwyrcyfieithiadaugrantiaucyhoeddwyr
 yn gronolegol    
   

Addasu nofel o Gymru yn ffilm

Mae disgwyl i addasiad ffilm o'r nofel Submarine gan yr awdur Joe Dunthorne o Abertawe gael ei ryddhau yn ystod 2010. 

Dilyn hynt a helynt Oliver Tate - bachgen 15-oed o Abertawe - y mae Submarine ac fe'i dewiswyd ar gyfer Silff Lyfrau 2008-09 y Gyfenwidfa Lên.

Cafodd yr hawliau ffilm i nofel Submarine gan Joe Dunthorne o Abertawe eu prynu yn 2008 gan Warp Films ac fe gafwyd cymorth gan Film4 i ddatblygu sgript ffilm.

Dechreuwyd ffilmio'r addasiad yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2009, mewn cydweithrediad â Red Hour Films a chyda cefnogaeth gan Film4, Cyngor Ffilm y Deyrnas Gyfunol, Cronfa Creative IP Cymru ac Asiantaeth Ffilm Cymru.

Richard Ayoade sydd wedi addasu'r nofel a'i chyfarwyddo ar gyfer y sgrin fawr. Mae'n enw adnabyddus ar y sîn gomedi ym Mhrydain, ar ôl ymddangos mewn cyfresi megis The Mighty Boosh a The IT Crowd.

Mae'r cast yn cynnwys Paddy Considine, Noah Taylor, Craig Roberts, Yasmin Paige and Sally Hawkins.

http://www.imdb.com/title/tt1440292/
Ers ei gyhoeddi gan Penguin yn 2008, mae Submarine wedi'i chyfieithu i chwech o ieithoedd gan gynnwys Almaeneg, Is-Almaeneg, Eidaleg a Rwseg.

Ym mis Medi 2009, fe deithiodd Joe Dunthorne i wyl lenyddol yn Slofenia ar wahoddiad Ty Cyfieithu Cymru ac mae cynlluniau ar y gweill bellach ar gyfer cyfieithiad i iaith Slofeneg.
 

 

Mae disgwyl i addasiad ffilm o'r nofel Submarine gan yr awdur Joe Dunthorne o Abertawe gael ei ryddhau yn ystod 2010.  

Llyfrau perthnasol:
 Submarine
Awduron perthnasol:
 Joe Dunthorne


 cartref          llyfrau | awduron | cyfieithwyr | cyfieithiadau | grantiau | cyhoeddwyr        am LLCD anfonwch e-bost atom