|
Ffeiriau Llyfrau Rhyngwladol: Gwanwyn 2010
Bob blwyddyn, mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn cael ei chynrychioli mewn ffeiriau llyfrau rhyngwladol lle mae'n hyrwyddo gwaith o Gymru, yn trafod cyfieithiadau posib gyda'r diwydiant cyhoeddi ac yn tynnu sylw at grantiau cyfieithu Cyngor Celfyddydau Cymru sydd ar gael trwy'r Gyfnewidfa. Yn ystod Gwanwyn 2010, bydd llenyddiaeth o Gymru yn cael ei hyrwyddo mewn tair o brif ffeiriau'r byd cyhoeddi: Ffair Lyfrau Abu Dhabi (2-7 Mawrth) Ffair Lyfrau Llundain (19-21 Ebrill) Ffair Lyfrau Thessaloniki (22-24 Ebrill)Ffair Lyfrau Prague (13-16 Mai)
Robin Grossmann sy'n gyfrifol am waith y Gyfnewidfa mewn ffeiriau llyfrau rhyngwladol a gellid anfon ebost ato os am drefnu cyfarfod neu holi unrhyw gwestiwn.
|