|
|
|
|
|||||||
|
Cyfarfod Blynyddol LAF yn Bratislafa Bydd Catrin Ashton o Gyfnewidfa Lên Cymru yn teithio i Slofacia yn Nwyrain Ewrop ym mis Chwefror 2010 ar gyfer cyfarfod blynyddol Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF). Y Gyfnewidfa oedd un o sylfaenwyr LAF ac fe'i sefydlwyd i ddarparu llwyfan Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid llenyddiaeth ac sy’n trefnu rhaglen o weithgareddau, mewn cydweithrediad â’i rhwydwaith o fudiadau partner. Rhaglen Ddiwyllaint yr Undeb Ewropeaidd sy’n ariannu LAF ac fel y Gyfnewidfa, mae’n rhan o Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth. Yn unol â pholisi’r Gyfnewidfa, bydd Catrin yn teithio ar y trên i Bratislafa ar gyfer y cyfarfod. |
| ||||||
|
|
![]() |