|
|
|
|
||||||||
|
|
Ffilmiau byr am awduron Cymru Mae’r gyntaf mewn cyfres o ddeg o ffilmiau byr am awduron o Gymru wedi’i chyhoeddi arlein. Testun y ffilm gyntaf yw’r nofelydd Siân Melangell Dafydd o Ogledd Cymru a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2009 am ei nofel Y Trydydd Peth. Comisynwyd y ffilmiau gan Gyfnewidfa Lên Cymru er mwyn hyrwyddo gwaith y deg awdur a ddetholwyd ar gyfer Silff Lyfrau 2009-2010. Mae awduron y Silff Lyfrau yn cynnwys Fflur Dafydd (Y Llyfrgell), Damian Walford Davies (Suit of Lights), Deborah Kay Davies (Grace, Tamar and Laszlo), Aled Islwyn (Milwr Bychan Nesta), Lloyd Jones (Y Dur), Owen Martell (Dolenni Hud), Wiliam Owen Roberts (Petrograd), Owen Sheers (White Ravens), Mari Strachan (The Earth Hums in B flat) a Siân Melangell Dafydd (Y Trydydd Peth). Sara Penrhyn Jones sy’n cyfarwyddo’r ffilmiau unigol ac fe fyddan nhw’n cael eu cyhoeddi arlein yn ystod 2010. Sian Melangell Dafydd from Sioned Rowlands on Vimeo. |
| ||||||
|
|
![]() |