|
|
|
|
|||||||
|
|
Ysgoloriaeth Newydd i Awduron Cymru Mae gwahoddiad i awduron o Gymru geisio am ysgoloriaeth newydd sbon sy’n werth dros £3,000. Fel rhan o Ysgoloriaeth Ty Cyfieithu Cymru/HALMA, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael treulio dau gyfnod preswyl mewn dwy wlad wahanol yn Ewrop yn ystod 2010. Mae’r ysgoloriaeth yn deillio o aelodaeth Ty Cyfieithu Cymru o HALMA – rhwydwaith sy’n cysylltu ac yn cydlynu 27 o sefydliadau llenyddol ar draws Ewrop. Bydd yr awdur o Gymru yn cael dewis treulio hyd at ddau fis mewn dau o’r 27 sefydliad yma. Yn ystod y preswyliad, bydd gwaith yr awdur yn cael ei gyfieithu i iaith y wlad lle mae’n aros ac fe fydd yn cael ei gyflwyno mewn dau ddigwyddiad cyhoeddus. Dylai ymgeiswyr anfon copi o’u CV a llythyr byr yn amlinellu eu rhesymau dros wneud cais at post@cyfnewidfalen.org erbyn hanner nos Nos Fercher 21 Hydref 2009. Sefydlwyd Ty Cyfieithu Cymru ym mis Mawrth 2009 fel partneriaeth rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Ty Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd. “Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu cynnig y cyfle unigryw hwn i lenor o Gymru,” meddai Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru, sy’n rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth. “Cafodd HALMA ei sefydlu yn 2006 ac yn gynharach eleni, fe wnaed cais llwyddiannus am aelodaeth o’r rhwydwaith gan Dy Cyfieithu Cymru. Bellach, mae gennym ffordd newydd o gysylltu gydag awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr llenyddiaeth o bob cwr o Ewrop – o’r Ffindir i Ffrainc, a Bwlgaria i Belarws.” Dywedd Cyfarwyddwr Ty Newydd, Sally Baker: “Mae HALMA yn cynnig rhwydwaith arbennig o dai cyfieithu a chanolfannau llenyddol a fydd yn ein galluogi ni i feithrin a datblygu cysylltiadau pellach rhwng awduron yng Nghymru a gweddill Ewrop.” “Yr ysgoloriaeth hon yw’r diweddaraf mewn cyfres o weithgareddau rhwng Ty Cyfieithu Cymru a HALMA. Fis Medi eleni, fe aethom ni â’r awdur Joe Dunthorne i gynhadledd HALMA yn Slofenia a ddaeth ag awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr at ei gilydd. Ryn ni’n edrych ymlaen at fod yn rhan o ddigwyddiadau a datblygiadau pellach yn y dyfodol.” |
| |||||
|
|
![]() |