printhomeemail usnewid laitham llcdnewyddiondygwyddiadauerthyglau
llyfrauawduroncyfieithwyrcyfieithiadaugrantiaucyhoeddwyr
 yn gronolegol    
   

Her Gyfieithu Eisteddfod: Beirniadaeth Menna Elfyn

Darllenwch feirniadaeth Menna Elfyn ar yr Her Gyfieithu a drefnwyd gan Dy Cyfieithu Cymru ar gyfer wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2009 yn y Bala. Aeth 29 o bobl ati i gyfieithu cerdd Slate, Oak, Glass gan y Bardd Cenedlaethol Gillian Clarke o'r Saesneg i'r Gymraeg.

"Hyfryd oedd cael fy ngwahodd unwaith eto i feirniadu'r gystadleuaeth ar gyfieithu  a chael traddodi’r feirniadaeth ym mhabell Prifysgol Cymru, Aberystwyth ar fore Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala eleni. A gwych o beth oedd derbyn naw ar hugain o gyfieithiadau ar gerdd o waith ein Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke sef Slate, Oak, Glass.

Cyn edrych yn fanylach ar y pentwr o drosiadau, fe hoffwn ddweud ychydig am y broses ei hun gan fod yna gryn ddrwgdybiaeth tuag at y broses o drosi gwaith creadigol yng Nghymru . Os nad drwgdybiaeth, yn sicr rhyw anghrediniaeth fod angen y fath beth o gwbl gan ein bod yn ein hanfod, er gwell er gwaeth, yn perthyn i genedl ddwyieithog.  Ond oni ddylai hynny fod yn fwy o reswm dros goleddu’r ddwy iaith ac ymhyfrydu yn eu perthynas â’i gilydd? Eu rhoi nhw ar waith mewn mwy nag un ystyr hefyd. Oherwydd y dyfyniad gorau a gefais o gyfieithu yw hwnnw gan y bardd Americanaidd Donald Revell mai ‘borrowed intensity’ yw, ac â ymlaen i ddweud ‘what is translation if not a liberating romp among alternatives’. Mae’r gair ‘amgen’ yna yn un holl bwysig felly wrth feddwl am drosi o un iaith i iaith arall (mi ddywedodd Pound rywbeth tebyg), achos i bob un gair fe ellid bod wedi rhoi gair arall yn ei le.

Chwarae gyda phosibiliadau geiriau ac ystyron yr ydyn ni felly a cheisio eu tafoli, eu pwyso a’u mesur, gan gadw mewn cof, yr ymlyniad at sain a churiad. Cerdded y gerdd a wneir hefyd a cheisio cadw cwmni gyda’r bardd gwreiddiol, ac os mai bwrw tystiolaeth yw amcan cerddi, yna felly hefyd yr angen i gyfieithydd fod yn gyfaill da i’r bardd y ceisir ailgreu o’i gwaith. Perthyn trwy waed y gerdd hefyd os oes raid a hawlio adnabyddiaeth gwell na’r rhan fwyaf ohonom sy’n darllen yn wibiog. Does neb am wn i, yn cyfieithu cerddi sâl. I beth? Na, mae cyfieithu yn ffordd o ddweud: edrychwch, sylwch, teimlwch y gerdd hon drachefn o’r newydd.

Roedd safon y gystadleuaeth hon yn uchel dros ben. Yn wir, roedd pob un wedi ceisio cyflwyno cerdd gyhyrog. A chwilio am gerdd yr oeddwn wedi ‘r cyfan, nid cyfieithiad fel y cyfryw. Fe ddarllenes y cwbl droeon, gan ddarllen yn uchel bob tro am mai dim ond trwy lefaru’r cerdd ar goedd y medrwn glywed y geiriau. Ambell dro, fe faglwn dros air a hynny’n arwydd  i mi fod yna ryw nam hefyd yn y llinell.

Mae’n go amhosib a llafurus i oedi gyda phob ymgeisydd a hynny am fod nifer o’r trosiadau yn defnyddio  yr un geiriau yn union wrth drosi. Cyfyngaf fy hun felly i dri ymgeisydd gan nodi eu bod nhw’n agos at fy newis i o ‘r rheiny sy’n cyrraedd at y brig. Dyma dri ymgais sy’n haeddu eu canmol am eu gwaith:

Rhif 3 a ddenodd fy llygaid i ddechrau a hynny am imi hoffi:

‘gwasgu cynfyd rhwng ei dalennau’

Llinell arall a hoffais am ei ehangder oedd:
‘rhychau llif y dyfroedd ...’

Un arall, a ddaeth yn uchel yn y gystadleuaeth oedd Rhif 18:

‘Mynyddoedd fu yma’n oedi
Yn graddol geulo gwaddodion’

O ail ddarllen, cefais y lluosog gwaddodion yn un anodd i’w lefaru.  Cerdd agos ati er hynny , yn enwedig pan soniodd am ‘ sgyfaint y goedwig yn ‘nadlu’.  Roedd gollwng ambell lythyren yn dangos yn glir imi fod yma fardd sy wedi clustfeinio’n rhagorol ar y gwreiddiol.

Rhif 14
‘Y cerrig llaid yn troi’n llechi’
Llinell syml ac eto’n gyfoethog o ran delwedd.

Hoffais yn arbennig  y sylw:
‘Brashollti’r llawr’

Daeth hwn yn agos at y brig am iddo ddefnyddio y gair ‘pwyllo’ a ‘pyllau’

‘Mae’n ein pwyllo hefo pyllau glaw’r to
Sy’n pefrio gyda golau dwbl.’

Yr ymadrodd  ‘golau dwbl’,  a gollodd ychydig o rym y gerdd yn fy marn i, er y deallaf pam iddo ei ddefnyddio wrth adleisio’r gwreiddiol. Gorffennodd er hynny’n gryf gyda ,
‘gogrwn y tywod drwy’r gwydr’.

Rhif 15
Rhagorodd y bardd hwn gyda:

‘yn gwau grisiau
O risial y môr’.

Mae yna rin i’r gair ‘ risial’ onid oes?  Ychwanegodd un gair annisgwyl hefyd:
‘Ac ail-fyw iaith ar awelion y Bae’.

Na , nid awelon a geir sef yr hyn y byddid yn ei ddisgwyl ond awelion, a’r ychwanegiad o’r ‘i’ yn rhoi eco inni o orwelion; unwaith eto, yr ehangder yna a gawn yma sy’n plesio ynghyd â llinell sy’n cloi’n effeithiol gyda’r gair ‘ tincial’ ar y diwedd yn atgof bod amser yn treiglo.

Cafwyd diweddglo da gan bob un o’r cystadleuwyr ond pwysleisiaf eto y byddai’n ailadroddus imi nodi pob un llinell a gafwyd ac mae’n bosib y byddai’r ymgeiswyr eu hunain yn drysu . Dyna un o wendidau gorfod tafoli cystadleuaeth fel hon: y ffaith fod pawb yn ceisio glynu’n gysact at y gwreiddiol a cheisio bod yn gyfewin rhag tarfu a llygru ysbryd y gerdd. Oes, y mae angen y priodoleddau hynny arnoch i wrando ar guriadau’r gerdd a chalon y bardd ond hefyd rhaid wrth ryw dinc newydd nes ei gwneud yn lleuad newydd o gerdd.

A dyma ddod felly at gerdd Rhif 17, ac un a gadwodd yn ddidwyll at ysbryd y gerdd a llwyddo hefyd i ychwanegu rhyw ddimensiwn newydd i gynysgaeddu’r gerdd gysefin a hynny gyda holl ysblander iaith arall. Mae’n taro’r glust fel cerdd newydd ac eto’n  gerdd sy’n gysgod hyfryd i’r un wreiddiol.

Un gair a’m denodd i ddechrau oedd y gair ‘llathr’. Roedd bron pawb wedi dehongli ‘  house of light’ fel ‘Ty goleuni,’ ‘ty  golau,’ ‘ty llawn golau’ ac yn y blaen ond dyma ddod ar draws ‘ yn y ty llathr’ ac mae llathr yn llawer cryfach gair na ‘golau’. Mae’n sgleinio i ddechrau ac iddo adlais o T Gwynn Jones yn fy nychymyg. Mae’n air urddasol hefyd, yn air sy’n pontio rhwng ddoe a heddiw, rhwng iaith aruchel a iaith ein dyhead am  wychder y Senedd. Mae’n gwneud rhywbeth hyfryd ar ddiwedd y geiriau hyn hefyd, wrth ein cynnwys, a’n cymell, gan alw arnom mewn modd gorchmynnol ond tadol gyda:

‘Yn y ty llathr hwn, clywch
Y goedwig eto’n anadlu
Y mynydd yn syflyd dan draed,
Hidl y tywod yn y gwydr.’

Dyna ddiweddglo campus felly ond beth am weddill y gerdd. Wel, mae yna gyffyrddiadau eraill sy’n plesio er imi oedi’n hir uwchben y gair ‘sidêt’. Fe welwch mor oddrychol yw beirniadu. Deuai sidêt â darluniau eraill i’r meddwl ond ar ôl pendroni fe wfftais fy rhagfarn a  deall ei safle yn nhrefn yr hyn sy’n cael ei gyfleu, yn ail linell y gerdd:

‘Silt yn setlo’n sidet ‘

Y  llinell agoriadol y gerdd oedd wedi rhagori ar y cerddi eraill:

‘Nid oes ar fynyddoedd frys’.
Dyna ffordd hyfryd o aralleirio
Mountains spent time on this:

Mae’n ddatganiad pwyllog fel man cychwyn ac nid oes modd ei ddarllen ar frys chwaith. Mae’r ‘oes’ a’r ‘frys ‘ ar y diwedd yn creu rhythm a chywair perffaith. Hoffais eiriau eraill o eiddo rhif 17- sef tafell llawr,  esgynfa’n codi’n/serth o’r dur. Ffolais ar  ‘ Dyma freuddwyd dyn ‘a ailadroddir. Dotiais at ‘ asennau derw’. Fe wnaeth yr adeilad bron iawn yn un o gig a gwaed. ‘Ffiolau  glaw’, unwaith eto, yn rhoi urddas sy’n gweddu i ‘r adeilad hwn.

‘Cwfl dur’ ac yna’r geiriau annisgwyl ‘ ein geiriau chwith’ am ‘ swallow our words’.

Fel y sylwch, rwy wedi fy nghyfareddu gyda’r gerdd hon yn Gymraeg.  O’i darllen laweroedd o weithiau bellach does gen i  ddim amheuaeth o gwbl mai Rhif 17 sy’n haeddu ennill gwobr Her Cyfieithu eleni, ac ennill ffon y pencerdd.  Gyda chryn glod felly , Rhif 17 sy’n mynd â hi er na welaf fod eisiau yr un ffon ar y bardd gan iddo gerdded y gerdd yn sionc."

Menna Elfyn, Awst 2009 

  • Rhagor am yr Her Gyfieithu...
  •  

    Darllenwch feirniadaeth Menna Elfyn ar yr Her Gyfieithu a drefnwyd gan Dy Cyfieithu Cymru ar gyfer wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2009.



     cartref          llyfrau | awduron | cyfieithwyr | cyfieithiadau | grantiau | cyhoeddwyr        am LLCD anfonwch e-bost atom