printhomeemail usnewid laitham llcdnewyddiondygwyddiadauerthyglau
llyfrauawduroncyfieithwyrcyfieithiadaugrantiaucyhoeddwyr
 yn gronolegol    
   

Cerdd Fuddugol yr Her Gyfieithu

I nodi sefydlu Ty Cyfieithu Cymru, fe drefnwyd Her Gyfieithu i gydfynd ag wythnos Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffuniau 2009.

Y dasg oedd cyfieithu Slate, Oak, Glass gan y Bardd Cendlaethol Gillian Clarke o'r Saesneg i'r Gymraeg. Yr enillydd oedd Damian Walford Davies, darlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth, ac fe allwch chi ddarllen y cyfieithiad buddugol isod.

Mae Ty Cyfieithu Cymru yn bartneriaeth newydd rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Ty Newydd

Llechi, Derw, Gwydr 

Nid oes ar fynyddoedd frys;
silt yn setlo’n sidêt,
llaca’n llathru’n llechi,
y cynfyd ym mhlygion craig.

Tarren chwâl o wyneb cwar
dry’n dalp o blinth, yn dafell
llawr; esgynfa’n codi’n
serth o’r dur.

Dyma freuddwyd y coed:
parabl neu barabola,
ambarél o degyll sidan
a llwnc lili’n do.

Dyma freuddwyd dyn:
gwyddor y gronglwyd –
asennau derw’n ffrydio
a disgyn yn drai.

O’r ffiolau glaw daw golau’n
fflach drwy ddur a gwydr;
ffeiria’r cwfl dur ein geiriau chwith
am awelon ffres y Bae.

Yn y tw llathr hwn, clywch
y goedwig eto yn anadlu,
y mynydd yn syflyd dan draed,
hidl y tywod yn y gwydr.

Cyfieithiad Damian Walford Davies o Slate, Oak, Glass

Slate, Oak, Glass

Mountains spent time on this:
the slow settlement of silts,
mudstones metamorphosed to slate,
prehistory pressed in its pages.

Rock blown from the quarry face
and slabbed for a plinth, a floor,
a flight of stairs rising
straight from the sea.

The forest dreamed it:
parable or parabola,
a roof like the silk gills of fungi,
the throat of a lily.

A man imagined it:
the oak roof’s geometry
fluid and ribbed as the tides
in their flux and flow.

He cools us with roof-pools of rain
that flicker with light twice reflected,
a wind-tower of steel to swallow our words
and exchange them for airs off the Bay.

Inside this house of light
you can still hear the forest breathe,
feel the mountain shift underfoot,
hear the sands sift in the glass.

Gan Gillian Clarke

  • Rhagor am yr Her Gyfieithu...

  •  

     

    Darllenwch y cyfieithiad o Slate, Oak, Glass a enillodd yr Her Gyfieithu a drefnwyd gan Dy Cyfieithu Cymru ar gyfer wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2009.



     cartref          llyfrau | awduron | cyfieithwyr | cyfieithiadau | grantiau | cyhoeddwyr        am LLCD anfonwch e-bost atom