|
|
|
|
|||||||||
|
|
Darlithydd Saesneg yn Cipio Gwobr Gyfieithu Cerdd gan ddarlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth fu’n fuddugol yn yr Her Gyfieithu a drefnwyd gan Dy Cyfieithu Cymru ar gyfer wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2009. Roedd Damian Walford Davies yn un o 29 o bobl a aeth ati i drosi cerdd Slate, Oak, Glass gan y Bardd Cenedlaethol Gillian Clarke o’r Saesneg i'r Gymraeg. Fe gyhoeddwyd mai fe oedd yr enillydd yn ystod digwyddiad arbenning ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes y brifwyl yn y Bala Ddydd Mercher 5 Awst 2009. Cyflwynwyd Ffon Farddol Ty Cyfieithu Cymru 2009 iddo gan Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas a'r llenor Menna Elfyn, a fu'n beirniadu'r cyfieithiadau. Yn ogystal ag yn ddarlithydd, mae Damian hefyd wedi cyhoeddi nifer o gerddi ac fe enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1993. Wrth dradoddi ei beirniadaeth, dywedodd Menna Elfyn bod safon y cyfieithiadau a ddaeth i law yn uchel iawn. “Nid tasg hawdd oedd dewis enillydd. Roedd pawb wedi dehongli'r gerdd wreiddiol mewn gwahanol ffyrdd ond roedd tair o gerddi ar fy rhestr fer," meddai. "Roedd y cyfieithiad buddugol yn fy atgoffa o waith y bardd T Gwyn Jones. Mae'n gyfieithiad godidog, gosgeiddig ac mae'n gerdd y gall y cyfieithydd a Gillian Clarke fod yn falch iawn ohonni." "Trwy'r broses o gyfieithu, mae bardd yn cadw cwmni gyda bardd arall. Mae'n ffordd o greu cysylltiad a chyfeillgarwch – y cyfieithydd a'r bardd gwreiddiol yn perthyn trwy waed y gerdd," ychwanegodd. Dywedodd Elin Haf Gruffydd Jones o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth bod y gystadleuaeth yn tynnu sylw at y cyfieithydd fel artist creadigol. "Mae cyfieithu llenyddiaeth yn broses greadigol a thrwy sefydlu Ty Cyfieithu Cymru, rydym yn gobeithio rhoi cyfle i gyfieithwyr ac ysgrifenwyr fel ei gilydd i ddatblygu'r grefft o gyfieithu,"dywedodd. "Mae yna 27 o Dai Cyfieithu yn Ewrop ond Ty Cyfieithu Cymru yw'r un cyntaf yn y Deyrnas Unedig ac rydym ni'n falch bod Cymru yn arwain yn y maes hwn." Partneriaeth yw Ty Cyfieithu Cymru rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru yn Aberystwyth a chanolfan ysgrifennu Ty Newydd yn Llanystumdwy. Mae’n cynnig preswyliadau a chyfleon hyfforddi i gyfieithwyr rhyngwladol sy’n trosi llenyddiaeth o Gymru. Mae hefyd yn trefnu preswyliadau tramor i awduron o Gymru ac yn darparu cyrsiau ar gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg a'r Saesneg i'r Gymraeg.
|
| |||||||
|
|
![]() |