printhomeemail usnewid laitham llcdnewyddiondygwyddiadauerthyglau
llyfrauawduroncyfieithwyrcyfieithiadaugrantiaucyhoeddwyr
 yn gronolegol    
   

Her Cyfieithu Menna Elfyn: Cyhoeddi Enillydd

Cerdd gan drefnydd Cylch Darllen Pwllheli fu’n fuddugol yn her cyfieithu cyntaf Ty Cyfieithu Cymru.

Roedd Gwyneth Owen yn un o 14 o bobl a aeth ati ym mis Mai 2009 i drosi cerdd Dod i’w coed gan y bardd Menna Elfyn o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Fe gyhoeddwyd mai hi oedd yr enillydd yn ystod digwyddiad arbenning yng Ngwyl y Gelli Ddydd Mawrth 26 Mai 2009 i nodi sefydlu Ty Cyfieithu Cymru.

Bydd Gwyneth – sy’n Ysgrifennydd Cylch Llenyddol Llyn ac yn gyn athrawes Saesneg – yn derbyn dwy noson i ddau o bobl yng nghanolfan ysgrifennu genedlaethol Ty Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd.

“Roedd clywed fy mod wedi ennill yn sioc fawr,” meddai Gwyneth sy’n byw ym Mhwllheli ac a fu’n gyfrifol yn 2003 am addasu’r gyfrol Llyn gan Elfed Gruffydd o’r Gymraeg i’r Saesneg. “Tydw i ddim yn gyfieithydd proffesiynol ond mae gen i ddiddordeb yn y maes. Digwydd i mi glywed Menna Elfyn yn siarad am y gystadleuaeth ar Radio Cymru a phenderfynu roi cynnig arni.”

Roedd safon y cyfieithiadau yn y gystadleuaeth yn uchel iawn, yn ôl Menna Elfyn sydd wedi gweld cyfrolau o’i gwaith ei hunan yn cael eu cyfieithu i 18 o ieithoedd gwahanol.

“Roedd gwneud penderfyniad terfynol yn anodd am fod sawl cerdd arbennig o dda wedi dod i law,” meddai. “Roeddwn i’n chwilio am gerdd oedd yn gweithio fel cyfanwaith, yn dal naws y gerdd wreiddiol ac yn dangos dawn cyfieithu – ac roedd cerdd Gwyneth Owen yn gwneud hynny.”

Partneriaeth yw Ty Cyfieithu Cymru rhwng Cyfnewidfa Lên Cymru yn Aberystwyth a chanolfan ysgrifennu Ty Newydd yn Llanystumdwy.

“Mae her cyfieithu Menna Elfyn wedi dangos eto bod gennym sgiliau cyfieithu da yma yng Nghymru, ond mae angen datblygu’r sgiliau hynny ymhellach a chynnig cyfleoedd i awduron a cyfieithwyr rhyngwladol gael dod i Gymru er mwyn dysgu am ein llenyddiaeth a sut i’w chyfieithu. Dyna pam mae’r Gyfnewidfa Lên a Thy Newydd wedi sefydlu Ty Cyfieithu Cymru,” meddai Cyfarwyddwr y Gyfnewidfa Lên Sioned Puw Rowlands.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Ty Newydd Sally Baker: “Mae’r Ty Cyfieithu yn rhan o ymgyrch ehangach i hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru ar draws y byd. Yma yn Nhy Newydd, rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r awdur rhyngwladol cyntaf atom yn yr hydref fel rhan o'r fenter newydd. Bydd y gweithdai cyfieithu cyntaf yn cael eu cynnal yma ddiwedd y flwyddyn” 

  • Darllenwch y gerdd fuddugol...
  • Darllenwch beirniadaeth Menna Elfyn...
  • Mwy o wybodaeth am y Ty Cyfieithu...
  • Gwefan Ty Newydd...
  •  

     

     

    Cerdd gan drefnydd Cylch Darllen Pwllheli yn cipio her cyfieithu cyntaf Ty Cyfieithu Cymru.



     cartref          llyfrau | awduron | cyfieithwyr | cyfieithiadau | grantiau | cyhoeddwyr        am LLCD anfonwch e-bost atom