|
|
|
|
||||||||
|
|
Canolfan Gyfieithu Newydd i Hyrwyddo Llenyddiaeth Cymru Mae Cymru i gael canolfan gyfieithu genedlaethol newydd a fydd yn rhoi hwb pellach i’r gwaith o gyfnewid llenyddiaeth rhwng Cymru a’r byd. Ar Ddiwrnod y Llyfr 2009, datgelodd Cyfnewidfa Lên Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Ty Newydd yn Llanystumdwy fanylion partneriaeth newydd i greu'r ganolfan gyntaf o'i bath yn y wlad. Caiff Ty Cyfieithu Cymru ei leoli yng nghanolfan Ty Newydd yn Llanystumdwy yng Ngwynedd ac fe fydd cyrsiau arbennig yn cael eu trefnu ar gyfer cyfieithwyr rhyngwladol sy’n awyddus i gyhoeddi gwaith o Gymru mewn ieithoedd eraill. Bydd y prosiect hefyd yn cynnig cyfnodau preswyl i awduron a beirdd tramor yn ogystal â hyfforddiant i lenorion sydd am gyfieithu eu gwaith o’r Gymraeg i’r Saesneg neu o’r Saesneg i’r Gymraeg. Bydd cyfle hefyd i awduron o Gymru dreulio cyfnodau dramor drwy rwydwaith rhyngwladol o dai cyfieithu ac ysgrifennu. Mae partneriaeth arbenigol yn cael ei ddatblygu gyda rhwydwaith Halma sy’n hyrwyddo cyfnewid llenyddiaeth ar draws Ewrop, yn dilyn cais aelodaeth llwyddiannus gan y Gyfnewidfa Lên a Thw Newydd ym mis Rhagfyr 2008. “Mae Ty Cyfieithu Cymru yn gam pwysig arall yn ein hymgyrch i gysylltu Cymru gyda’r farchnad gyhoeddi ehangach y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig,” meddai Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr y Gyfnewidfa Lên sy’n rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth. “Mae rôl y cyfieithydd yn allweddol i’r gwaith o gyfnewid llenyddiaeth ar draws ffiniau ieithyddol ac mae’n hanfodol ein bod yn meithrin sgiliau cyfieithu yma yng Nghymru er mwyn sicrhau bod ein llenyddiaeth yn cyrraedd y farchnad ryngwladol,” ychwanegodd. Yn ôl Cyfarwyddwr Gweithredol Ty Newydd, Sally Baker, mae’r bartneriaeth yn garreg filltir bwysig arall yn y gwaith o godi proffeil llenyddiaeth Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. “Mae partneriaeth Ty Cyfieithu Cymru yn ddatblygiad unigryw a chyffrous. Mae’n cyfuno profiad helaeth a lleoliad godidog Tw Newydd gyda’r arbenigedd mae Cyfnewidfa Lên Cymru wedi’i ddatblygu ym maes cyfnewid llenyddiaeth rhyngwladol,” meddai. Caiff y cwrs cyntaf o dan faner Ty Cyfieithu Cymru ei gynnal ym mis Tachwedd 2009, gyda’r pwyslais ar farddoniaeth. Fe fydd cyrsiau eraill yn canolbwyntio ar ffuglen a ffurfiau llenyddol eraill. Llun: Canolfan Ty Newydd yn Llanystumdwy a fydd yn gartref i Dy Cyfieithu Cymru. |
| ||||||
|
|
![]() |