|
|
| Pobl CLC Partneriaethau Prosiectau |
CYFNEWIDFA LÊN CYMRU POBL CLC
Cyfnewidfa Lèn Cymru, Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 3AS, Cymru, DU PARTNERIAETHAU Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn gweithredu gyda chymorth ariannol gan
mewn partneriaeth gyda
ac yn cydweithio gyda
PROSIECTAU
Sefydlwyd Llenyddiaeth ar draws Ffiniau (LAF) gan Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant / Cyfnewidfa Lên Cymru yn 2001. Ar hyn o bryd, mae'r rhwydwaith yn gweithio gyda mwy na 30 o bartneriaid yn Ewrop a thros y byd. Rhaglen o gynlluniau yw LAF gyda'r nod o hyrwyddo cyfnewid llenyddiaeth ynghyd â gwaith mudiadau sydd ynghlwm â hyrwyddo llenyddiaeth a chefnogi cyfieithiadau llenyddol. Mae Rhwydwaith Cyhoeddwyr Mosaic yn bartneriaeth o gyhoeddwyr annibynnol yn Ewrop sy'n canolbwyntio ar gyhoeddi cyfieithiadau o weithiau llenyddol. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol gan gan Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant / Cyfnewidfa Lên Cymru yn dilyn cynhadledd yn Aberystwyth yn 1998 o'r enw "Mosaic: hyrwyddo llenyddiaeth ar draws ffiniau". Mae Sealines yn gynllun cyfnewid awduron a chyfieithwyr preswyl a sefydlwyd gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau yn 2005. Lawnsiwyd Scritture Giovani yn 2002 gan Festivaletteratura Mantova (Yr Eidal) i hyrwyddo gwaith awduron Ewropeaidd ifanc. Un o'i brif bartneriaid yw Gwyl y Gelli (Cymru). Mae awdur o Gymru wedi bod yn rhan o'r rhaglen bob blwyddyn a chyda chymorth CLC, mae eu gwaith wedi'i gyfieithu i nifer o ieithoedd ac yna ei ddosbarthu gan illycaffè. Adolygiad arlein o lyfrau a llenyddiaeth Ewrop yw Transcript sy'n cael ei gyhoeddiad mewn Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg gan rwydwaith Llenyddiaeth ar draws Ffiniau. Cafodd prosiect y Gadwyn Awduron ei greu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru mewn partnerhiaeth â Chyngor Prydeinig Gogledd Iwerddin a Chyngor Prydeining yr Alban, ac mae'n cael ei reoli gan y Gyfnewidfa Lên. Nod y prosiect yn ystod y cyfnod peilot (2008-09) yw hyrwyddo cyfnewid llenyddiaeth rhwng Cymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Lloegr ac India, gan weithio mewn partneriaeth â Ffair Lyfrau Llundain a menter India 09 y Cyngor Prydeinig. |
|||||||||||||||||
|
|
![]() |